Mae ffotograffiaeth panorama 360º yn hanfodol
ar gyfer marchnata yn yr 21fed Ganrif
Sut all Teithiau Rhithwir weithio i chi?
- Gwerthwyr Tai: Rhowch gyfle i brynwyr potensial deimlo awyrgylch yr eiddo yr ydych yn ei werthu. Nodwch y gall y gost gael ei thalu gan y gwerthwyr hyd yn oed, fydd am i chi ddefnyddio pob dull posibl i werthu eu cartref mor gyflym â phosibl - mae nhw'n awdurdodi'r hysbysebion y byddwch yn eu gosod yn y papurau newydd yn barod, felly byddan nhw'n awyddus i gefnogi'r dechnoleg ddiweddaraf
hefyd!
- Gwestywyr: Rhowch gyfle i gwsmeriaid posibl weld eich sefydliad cyn iddyn nhw archebu ystafelloedd, priodasau ac achlysuron arbennig. Bydd Ffotograffau 360º yn helpu sicrhau
archebion.
- Perchnogion Tai Gwyliau: Gadewch i bobl sydd am ddod ar eu gwyliau weld eich eiddo cyn iddyn nhw archebu lle. Pe byddech chi'n gallu gweld un bwthyn mewn Taith Rithwir ond yn methu gweld un arall, pa un fyddech chi'n fwyaf tebygol o'i
ddewis?
- Gweithredwyr Atyniadau Twristiaid: Gadewch i'r cwsmer weld eich cyfleusterau ar-lein cyn teithio i'w mwynhau go iawn! Mae gennych chi wefan i ddenu cwsmeriaid - defnyddiwch hi i'w photensial
llawn!
Edrychwch ar rai o'r enghreifftiau fan hyn
ac yna cysylltwch â ni i drefnu
apwyntiad.
Sut mae'n Gweithio?
- Byddwn ni'n dod allan i dynnu lluniau ac wedyn fe gaiff y Teithiau Rhithwir eu prosesu (o fewn 24 awr fel
arfer).
- Mae'r Teithiau Rhithwyr yn cael eu gweletyau o bell felly nid oes unrhyw
"daliadau gweletya."
- Yr unig beth y bydd angen i'ch gwefeister ei wneud yw mewnosod y gwegyswllt perthnasol yn eich gwefan
bresennol.
Gan ein bod yn gweithredu'n lleol yn bennaf, gallwn gadw ein costau am y gwasanaeth arloesol hwn ar lefel gystadleuol dros ben - yn cychwyn cyn lleied â £40* yr eiddo sy'n cynnwys hyd at BEDWAR ffotograff panoramig 360º o'r ystafelloedd o'ch dewis chi.
* Byddwn yn rhoi prisiau gwestai / atyniadau twristiaid pan wneir cais.
|